Graddedigion Prifysgol De Cymru yn derbyn tystysgrifau ETS Cymru
Derbyniodd graddedigion o raglen Waith Ieuenctid a Chymunedol Prifysgol De Cymru eu tystysgrifau cymhwyso proffesiynol mewn noson wobrwyo yng Nghasnewydd. Trefnwyd y digwyddiad ar 21 Mawrth gan rai o’r cyn-fyfyrwyr, ac fe’i cynhaliwyd yng Nghlwb Chwaraeon y Pill Harriers. Rhoddodd Gareth Newton, Cadeirydd Cymru ETS, y tystysgrifau iddynt.