Fforwm ETS
-
Yng Nghymru, fe ddaw statws cymwysedig proffesiynol trwy ennill cymhwyster proffesiynol mae ETS Cymru wedi’i gydnabod ar ran y Cydbwyllgor Negodi. Y National Youth Agency sy’n cyflawni’r swyddogaeth honno (dilysu proffesiynol) yn Lloegr. North South ETS sy’n gyfrifol am hynny yng Ngweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon ac, yn yr Alban, cyfrifoldeb y Standards Council for Community Learning and Development yw e. I ofalu bod datblygiadau yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon yn cyd-fynd, bydd yr amryw gyrff ardystio yn cydweithio ac yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn o dan enw Fforwm ETS y DG ac Iwerddon.
-
Bydd graddedigion ac iddyn nhw gymwysterau mae un o aelodau Fforwm ETS yn eu cymeradwyo yn cael eu cydnabod yn weithwyr proffesiynol trwy’r Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon yn unol â phrotocol y cytunodd aelodau’r fforwm arno.
-
Bydd rhaglen sydd ar waith ar draws ffiniau amryw wledydd y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon yn cyflwyno cais am ddilysu/ardystio proffesiynol trwy bwyllgor ETS yn y wlad lle mae prif fan gweinyddu’r sefydliad. Bydd y gweithgor sy’n ymweld â sefydliad yn rhan o broses ardystio rhaglen o’r fath yn broffesiynol yn cynrychioli rhai o aelodau eraill Fforwm ETS neu’n gweithio ar eu rhan fel y bo’n briodol.