Coronafeirws / Covid-19 – Canllawiau ETS ar gyfer y sector Addysg Bellach
(canllaw ar wahân ar gyfer y sector addysg uwch)
Gwybodaeth ar y cyd gan NYA Lloegr ac ETS Cymru i Sefydliadau Dyfarnu
Rydym yn ysgrifennu mewn perthynas â’r pandemig Coronafeirws cyfredol, a’r effeithiau posib ar ddarpariaeth cyfres o gymwysterau Gwaith Ieuenctid. Fel yr ydych oll yn ymwybodol, rydym mewn sefyllfa sy’n newid yn sydyn gyda chyngor mewn perthynas a diogelu pobl ddiamddiffyn. Ar hyn o bryd, y cyngor gan sefydliadau addysg yw aros ar agor. Mae hyn yn erbyn amgylchedd ehangach o hunan-ynysu, cadw pellter cymdeithasol, gweithio o gartref ac osgoi amgylcheddau torfol.
Gan ystyried hyn, rydym yn ceisio cael cytundeb a chonsensws ar addasiadau dros dro i’r Strategaeth Asesu ar gyfer cymwysterau Gwaith Ieuenctid.
Mae rhai modiwlau lle mae arsylwi ymarfer yn ofyniad, ynghyd â chwblhau gweithgareddau mewn amgylchedd gwaith go iawn. Efallai na fydd hyn yn bosibl i rai myfyrwyr rŵan, neu yn yr wythnosau nesaf.
Er mwyn lliniaru’r sefyllfa, argymhellwn y canlynol:
- I’r rhai sydd wedi bod yn gweithio mewn amgylcheddau gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb am y chwe mis diwethaf, awgrymwn y gallwn dderbyn tystiolaeth tyst wedi’i lofnodi a’i ddyddio ar gyfer holl dasgau arsylwi, er y gall y rhain fod yn hanesyddol (yn ystod y chwe mis blaenorol).
- Rydym yn cynnig cyngor i holl ganolfannau i aildrefnu eu rhaglenni fel bod unrhyw unedau sy’n gofyn am waith ieuenctid ymarferol wyneb yn wyneb yn cael eu cyflawni yn y diwedd, yn y gobaith y bydd mynediad i amgylcheddau gweithio yn y misoedd i ddod.
- Anogwn i holl ganolfannau addasu eu hadnoddau er mwyn cynnig darpariaeth ddigidol lle bynnag bosibl, gan ddefnyddio cyfarpar asesu creadigol er mwyn sicrhau bod pobl yn dal i allu cwblhau eu rhaglenni dysgu.
Rhaid i Gyrff/Sefydliadau Dyfarnu roi manylion o fewn eu prosesau rheoli ansawdd ar gyfer y canlynol:
- Os yw rhan neu holl ganlyniadau dysgu o’r Unedau am gael eu darparu drwy ddysgu o bell.
- Dull dysgu o bell a ddefnyddir.
- Y cynnwys hyfforddi i’w gwblhau wrth ddysgu o bell.
- Y nifer o oriau dylid gweithio gyda’r deunydd dysgu o bell.
- Dull cadarn y gellir ei archwilio ar gyfer penderfynu bod dysgwyr wedi cyflawni dysgu o bell.
Rhaid i ddeunyddiau hyfforddi ddangos yn glir i ddysgwyr, faint o oriau o ddysgu mae disgwyl iddynt ei gyflawni a’u bod yn cael digon o amser i’w galluogi i gwblhau dysgu o bell. Mae hefyd yn ofynnol bod y ganolfan yn gwirio bod y dysgwyr wedi cwblhau dysgu o bell yn ystod yr hyfforddiant er mwyn sicrhau bod dysgu priodol wedi digwydd.
Awgrymwn ein bod yn gwneud hyn yn addasiad dros dro swyddogol i’r strategaeth asesiad o 18 Mawrth 2020, gydag adolygiad parhaus wrth i gyngor iechyd y llywodraeth newid.
Canllawiau pellach:
Rydym yn gwerthfawrogi bod ansicrwydd ar hyn o bryd o ran y sefyllfa sy’n codi wrth i COVID-19 ddatblygu a lledaenu. Gan fod y sefyllfa yn ansefydlog ac yn dibynnu ar ganllawiau swyddogol gan y Llywodraethau yn San Steffan ac yn Gaerdydd, byddwn yn adolygu ein canllawiau yn rheolaidd ac yn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rannu yn amserol.
Ymholiadau:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r canllawiau hyn neu eich rhaglen(ni) penodol, mae croeso i chi gysylltu â Liz Rose (Ymgynghorydd ETS) neu Steve Drowley (Cadeirydd ETS) yn ETS Cymru: